AMDANO'R GWDIHWS


Sefydlwyd Gwdihws GCS yn 2019 gan Neil Griffiths, ar hyn o bryd rydym yn chwarae Overwatch, Rocket League, Valorant ac Apex Legends ac yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Esport Prydain. Mae gennym chwech tîm i gyd, dau dîm ar gyfer Overwatch, dau ar gyfer Rocket League, un ar gyfer Valorant ac un ar gyfer Apex Legends.

Chwaraeodd Tîm 1 Overwatch Gwdihws GCS eu tymor cyntaf ddwy flynedd yn ôl a chawsant dymor anhygoel lle gorffenodd y tim yn yr 8 uchaf yn Prydain, am dymor cyntaf mae hon yn gamp anhygoel. Yn yr ail dymor gwelwyd ein timau Overwatch a Rocket League yn cystadlu ar y lefelau uchaf. Gorffennodd ein Tîm Overwatch 1 yn y 4 uchaf yn Prydain a gorffennodd ein Tîm Rocket league 1 yn yr 8 uchaf.

Rydym wedi dechrau ein trydydd tymor gyda thimau cryfach ac yn edrych ymlaen i wthio am fwy o llwyddiannau tymor yma. Gyda'n chwaraewyr a'n timau newydd rydyn ni'n edrych ymlaen at hedfan yn uwch yn y gynghrair.